NNDM6698 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod

Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol ym mis Tachwedd 2017.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig)