NDM6697 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2018 | I'w drafod ar 18/04/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;
b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 2, dileu “weithio gyda” a rhoi “annog” yn ei le.