NDM6695 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2018 | I'w drafod ar 02/05/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.

2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.

3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;

b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac

c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.

Plan International UK - 1 in 10 girls have been unable to afford sanitary wear (Saesneg yn unig)

Cyngor Rhondda Cynon Taf- Adroddiad terfynol y gweithgor craffu sy'n ymdrin â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion  (Saesneg yn unig)