NDM6683 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2018 | I'w drafod ar 13/03/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

Gosodwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23 Hydref 2017.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)  gerbron y Cynulliad ar 5 Mawrth 2018.

Gwelliannau

NDM6683 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na fydd y Bil yn arwain at y canlyniadau iechyd cadarnhaol a ddymunir ar gyfer pobl Cymru ac y gallai gael effaith niweidiol ar rannau o'n cymunedau sy'n agored i niwed.