NDM6682 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 01/03/2018 | I'w drafod ar 16/05/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adroddiad diweddar gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer sy'n tynnu sylw at ddiagnosis cynnar a'i uchelgais o wella cyfraddau goroesi pobl y mae canser y coluddyn yn effeithio arnynt.
2. Yn cydnabod cyfraniad dewr cleifion canser y coluddyn yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran gwella canlyniadau yn sgil galw cynyddol am ddiagnosis, o fewn cyfyngiadau'r gwasanaeth presennol.
3. Yn cydnabod mai canser y coluddyn yw'r canser sy'n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl yng Nghymru ac yn cydnabod yr effaith a gaiff diagnosis cynnar ar gyfraddau goroesi a phwysigrwydd annog y cyhoedd i fanteisio ar gyfleoedd i sgrinio eu coluddion gan bod y niferoedd sy'n cael eu sgrinio wedi gostwng 1 y cant yn y 12 mis diwethaf.
4. Yn croesawu cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion (FIT) symlach a mwy cywir fel rhan o'r rhaglen profi'r coluddyn a'r potensial i wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen sgrinio canser y coluddyn a all gyrraedd ei photensial llawn ac ymdrin â materion o amgylch:
a) y trothwy arfaethedig ar gyfer prawf imiwnogemegol ysgarthion i'w gyflwyno yn 2019;
b) heriau sy'n bodoli o fewn gwasanaethau endosgopi a phatholeg i sicrhau y gellir cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion yn y ffordd orau bosibl;
c) yr angen i ostwng yr oedran sgrinio cymwys o 60 i 50.
Spotlight on Bowel Cancer in Wales - Early Diagnosis Saves Lives (Saesneg yn unig)