NDM6675 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2018 | I'w drafod ar 06/03/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2016-17.
Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2018.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
NDM6675 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar
01/03/2018
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y Prif Arolygydd yn datgan yn yr adroddiad bod “gwella’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu disgyblion yn mynd law yn llaw â gwella ansawdd addysgu. Mae gwella addysgu yn mynnu gwell cymorth, dysgu proffesiynol a datblygiad staff ar gyfer athrawon presennol, yn ogystal â recriwtio gwell ac addysg a hyfforddiant cychwynnol gwell”.