NDM6669 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2018 | I'w drafod ar 28/02/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru.
2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol.
3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach.
4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys.
5. Yn cytuno y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad o fewn blwyddyn.

Gwelliannau

NDM6669 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau.

NDM6669 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen.  

NDM6669 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd.

NDM6669 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma.  

NDM6669 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2018

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i hyfywedd datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn.

NDM6669 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2018

Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams.

Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol.

Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith.