NDM6662 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2018 | I'w drafod ar 27/02/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Bill documents — Assaults on Emergency Workers (Offences) Bill 2017-19 – UK Parliament (Saesneg yn unig)