NDM6651 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2018 | I'w drafod ar 13/02/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol, sy'n ymwneud â sefydlu'r un corff arweiniad ariannol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Bill documents — Financial Guidance and Claims Bill [HL] 2017-19 — UK Parliament