NDM6631 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 17/01/2018 | I'w drafod ar 24/01/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod 'Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi' gan Lywodraeth Cymru yn methu â darparu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd yng Nghymru. 

Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi

Gwelliannau

NDM6631 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu:

a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i ffyniant economaidd yng Nghymru;

b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei lesteirio gan Lywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth tramor nad yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y ddyled genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a

c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n seiliedig ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn fordd fwy cymesur. 

NDM6631 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2018

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.

2) Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.

3) Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.

4) Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.

5) Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi