NDM6621 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018 | I'w drafod ar 10/01/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu llety i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'.

Gwelliannau

NDM6621 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2018

Dileu popeth cyn “fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'” a rhoi yn ei le:

"Yn nodi â phryder y cynnydd mewn digartrefedd yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn trawsbleidiol i gytuno ar strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dod â chysgu ar y stryd i ben erbyn 2020,"

NDM6621 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2018

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r effaith gadarnhaol y mae fframwaith statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i chael yn peri i’r system ddigartrefedd ganolbwyntio ar atal digartrefedd a’r sylfaen gref y mae hyn yn ei rhoi ar gyfer camau gweithredu pellach.

2. Yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y system a phroblemau penodol i rai grwpiau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu cynnig o lety addas i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at ddull cynhwysfawr o geisio dod â digartrefedd i ben yng Nghymru, sy’n cynnwys polisi 'tai yn gyntaf'.

Deddf Tai (Cymru) 2014