NDM6617 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2018 | I'w drafod ar 09/01/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni

Gwelliannau

NDM6617 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;

b) bod adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”, yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);

c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.

Sefydliad Bevan - "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales

NDM6617 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.

NDM6617 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.

NDM6617 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 04/01/2018

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad strategol ym mhob rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd gorllewinol.

Yn credu mai dim ond gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn.

Yn credu y bydd angen corff cyflenwi trosfwaol i fonitro, hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni.