NDM6616 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 02/01/2018 | I'w drafod ar 09/01/2018Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP).
2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’ cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft.
3. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol.
4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl "chydweithio" a mewnosod:
"ond yn gresynu at yr oedi wrth lunio Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru."
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i economi ac amgylchedd morol Cymru yn y dyfodol.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit.
Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at yr oedi o ran cyhoeddi cynllun morol terfynol Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun yr her i foroedd Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.