NDM6612 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017 | I'w drafod ar 13/12/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd eu hunain;

b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd tir llwyd ar sail gwerth eudefnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair blynedd neu fwy; ac

c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.

Gwelliannau

NDM6612 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b) a rhoi yn ei le:

'archwilio cymhellion i awdurdodau lleol ac asiantaethau cyhoeddus i nodi safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer datblygu'.  

NDM6612 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 08/12/2017

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;

b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o  £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;

c) y bydd  £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;

d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.