NDM6608 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2017 | I'w drafod ar 12/12/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017

Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017  

Gwelliannau

NDM6608 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn cael ei lesteirio gan y diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

NDM6608 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addweidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.  

NDM6608 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb y rhoddwyd gwybod amdanynt yng Nghymru.  

NDM6608 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus " yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol – Cynllun Strategol Drafft 2017-23