NDM6602 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2017 | I'w drafod ar 05/12/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen am gymryd camau brys, gan gynnwys gweithio ar draws pob adran o Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael sy’n effeithio ar iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru

2. Yn cefnogi datblygu cynllun aer glân i Gymru i sicrhau mwy o welliannau na’r lleiafswm cyfreithiol ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan gynnwys:

a) llunio fframwaith parth aer glân i sicrhau bod y parthau aer glân yn cael eu cynnal yn gyson ac effeithlon gan yr awdurdodau lleol, lle’r bo’r angen;

b) gwella’r ffordd y mae’r awdurdodau lleol yn adrodd ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd aer yn eu rhanbarthau, a’r ffordd y maent yn mynd i’r afael â nhw;

c) sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru, ar gyfer cynghori llywodraethau lleol a chenedlaethol ar faint o ansawdd aer gwael sydd ac ar effeithiolrwydd camau gweithredu, nawr ac yn y dyfodol;

d) sefydlu ymgyrch barhaus sy’n ymwneud ag ansawdd aer ac ymyriadau eraill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael ac i newid ymddygiad.

3.   Galw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i gael gwared ar geir a faniau diesel a phetrol erbyn 2040 drwy osod cerrig milltir penodol i’w cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw, gan gyflymu’r newid i system drafnidiaeth dim allyriadau yn y DU a gan sicrhau canlyniadau iechyd y cyhoedd yn gynharach.

Gwelliannau

NDM6602 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2017

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r mesurau arloesol a hyrwyddir gan Lywodraeth y DU, fel cael gwared ar bob injan diesel a phetrol erbyn 2040 – ac yn galw am fwy o gysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi hwn, er mwyn sicrhau'r newid i drafnidiaeth ffordd dim allyriadau yn y DU a  chyflwyno'r canlyniadau cysylltiedig iechyd y cyhoedd.

 

NDM6602 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd.  

NDM6602 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar lygredd aer.

NDM6602 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer.

NDM6602 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylid monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion ac ar lwybrau teithio llesol.

NDM6602 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb .