NDM6594 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2017 | I'w drafod ar 29/11/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wrth iddi waethygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r ansicrwydd ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau;
b) cyhoeddi cynllun gweithredu clir i ddychwelyd y bwrdd iechyd at ei statws arferol; ac
c) egluro'r mesurau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’i amseroedd aros a’i sefyllfa ariannol annerbyniol.
Yn nodi’r cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa.
Yn nodi y bydd y cynnydd yn cael ei adolygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau mis Rhagfyr ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried mesurau pellach y bydd raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymgymryd â hwy er mwyn gwella.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol er mwyn datrys y materion a wynebir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n golygu y bydd angen cynyddu lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol.