NDM6573 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017 | I'w drafod ar 29/11/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn unol â'r amodau hyn:

1. Y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf i sefydlu ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â bwlio, bygwth a thanseilio Gweinidogion.

2. Y dylai'r Pwyllgor sefydlu'r canlynol fel rhan o'i ymchwiliad:

a) pryd y gwnaed honiadau i'r Prif Weinidog a/neu ei swyddfa;

b) sut yr ymchwiliwyd i'r honiadau;

c) pa gamau a gymerwyd o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad;

d) rôl y Prif Weinidog a'i swyddfa yn y broses o ymdrin â'r materion hyn; ac

e) dilysrwydd yr atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r honiadau hynny.

3. Y dylai'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth gan dystion fel rhan o'i waith.

4. Y dylai'r Pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018.

Gwelliannau

NDM6573 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi:

1) Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o gyngor arbenigol ar ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan God y Gweinidogion, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2017.

2) Bod James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei benodi’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru;

3) Bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio’i hun at James Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y pythefnos diwethaf, iddo weithredu’n groes i God y Gweinidogion; a

4) Adroddiad terfynol y Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

Datganiad Ysgrifenedig

Cod y Gweinidogion – Tachwedd 2017