NDM6572 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017 | I'w drafod ar 13/12/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru.

2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio llesol - i ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio'r car.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad i'r camau cyntaf tuag at metro de Cymru.

4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel cam nesaf.

5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu - gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro - er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro.