NDM6571 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2017 | I'w drafod ar 22/11/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adolygiad y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.

Y Grŵp trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid - Adolygiad o Effaith Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Gwelliannau

NDM6571 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2017

Ychwnanegu pwynt 3 newydd:

Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n cynnwys:

a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny;

b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen;

c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac

d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith.

Rhoi a Derbyn – Pecyn Cymorth

Croeso i Gymru

Y Llwybr Tai Cenedlaethol

NDM6571 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.

 

NDM6571 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.