NDM6566 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2017 | I'w drafod ar 22/11/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu:

a) y bydd cyflwyno trethi newydd yng Nghymru heb ganiatâd yr etholwyr, a thrin Cymru fel labordy treth arbrofol, yn niweidio enw da Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru; a

b) bod trethi y DU a Chymru yn ddigon uchel eisoes, yn atal entrepreneuriaeth a thwf ac yn gwasgu cyllidebau pobl sydd ar incwm isel.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â blaenoriaethu ymchwil i drethi newydd yng Nghymru ond, yn hytrach, i ddilyn polisïau i wella twf economaidd a chreu swyddi â chyflog da, na fyddant yn gosod beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau nac yn cosbi unigolion am sut y maent yn dewis byw eu bywydau.  

Gwelliannau

NDM6566 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod datganoli treth i Gymru yn rhoi cyfle i wella atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru.

2. Yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gyflwyno treth arloesol i gefnogi amcanion polisi amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd.

3. Yn cefnogi cyflwyno treth ar ddeunydd pacio polystyren ehangedig tafladwy.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr a'r dreth gorfforaeth i Gymru.

NDM6566 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu Deddf Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017, sy'n datganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn rhoi mwy o atebolrwydd o ran gweithrediadau dydd i ddydd Llywodraeth Cymru.

2. Yn credu bod sail dreth gynhwysfawr yn annog mwy o ffyniant.

3. Yn gresynu at gynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. 

Deddf Cymru 2014 (Saesneg yn unig)

Deddf Cymru 2017 (Saesneg yn unig)

NDM6566 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi iddo bleidleisio’n unfrydol o blaid y penderfyniad i brofi’r mecanwaith sydd yn Neddf Cymru i gynnig trethi newydd mewn dadl ar 4 Gorffennaf 2017.