NDM6560 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2017 | I'w drafod ar 14/11/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17

Gwelliannau

NDM6560 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:

a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;

b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;

c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle cynigir dewis iaith yn ddiofyn; a

d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.

 

NDM6560 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg fel yr amlinellir ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg.