NDM6559 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2017 | I'w drafod ar 21/11/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n:

Nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel y’i tanlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg 

Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg

 

Gwelliannau

NDM6559 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod camddefnyddio sylweddau yn fater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn hytrach na'n fater troseddol.  

NDM6559 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith:

a) bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru , 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yn dangos y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ac sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru;

b) bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi gostwng; ac

c) bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio na dwy flynedd yn ôl.

NDM6559 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti gwasanaethau dadwenwyno haen 4 i gleifion mewnol a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adfer o fewn y gymuned.