NDM6549 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2017 | I'w drafod ar 25/10/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno'r credyd cynhwysol.
2. Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â'r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadauyn mynd i unigolion nid cartrefi.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pryder sy'n bodoli ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.
2. Yn croesawu'r egwyddorion y tu ôl i'r credyd cynhwysol, sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith, ac yn nodi pan y rhagwelwyd credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuodd fod y rhan fwyaf o bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad yw'n ysgogi cyflogaeth.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 2 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
2. Yn nodi’r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy’n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno’r credyd cynhwysol sy’n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.
3. Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a’r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno’r credyd cynhwysol a mynd i’r afael â’r pryderon sylfaenol sy’n cael eu codi.