NDM6536 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2017 | I'w drafod ar 18/10/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd Cymru.

2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru. 

3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys:

a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de;

b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad dros y Fenai;

c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru;

d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru;

e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;

f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru;

g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru.

Gwelliannau

NDM6536 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2017

Dileu pwynt 3

NDM6536 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod "gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.

'Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru'

NDM6536 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2017

Dilewch y cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi’r Gogledd i Gymru a’r DU.

2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

3. Yn croesawu’r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy’n cynnwys:

a) buddsoddi £250 miliwn yng nghoridor yr A55/A494;

b) £20 miliwn i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;

c) £50 miliwn ar gyfer Metro’r Gogledd Ddwyrain; ac

d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.

4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy’n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i’r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.

5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a’r Gogledd Orllewin.

6. Yn croesawu’r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.

7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen all cynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth.