NDM6534 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2017 | I'w drafod ar 18/10/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a
b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dilewch popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.
2. Yn nodi’r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun pas teithio newydd ac uchelgeisiol i bobl ifanc sy’n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio’r bysiau.
3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.
4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu’n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o’i hehangu, yn targedu’r rheini sydd angen yr help fwyaf.
5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru drwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol.
Ymgynghoriad: Teithiau bws rhatach ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru