NDM6531 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2017 | I'w drafod ar 17/10/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni hyd yma yng Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran ailgylchu trefol.
2. Yn cefnogi’r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid:
a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; ac
b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 2 ,dileu popeth ar ôl 'yr achos o blaid' a rhoi yn ei le:
'targed o sicrhau dyfodol diwastraff erbyn 2030.'
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun dychwelyd blaendal.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio ac na ellir eu hailgylchu.