NDM6530 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2017 | I'w drafod ar 17/10/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Fframwaith Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws Cymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, er y bu cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cod ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu’n fychanol.
Llywodraeth y DU - 'Internet Safety Strategy Green Paper' (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig.
'Llywodraeth Cymru - Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig'
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant i athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb mewn ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag cadw hyn yn gudd.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.