NDM6528 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2017 | I'w drafod ar 15/11/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn;
b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff;
c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol; a
d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.