NDM6527 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2017 | I'w drafod ar 18/10/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg trafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol.
2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i:
a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a
b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau trydanu ledled Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.