NDM6516 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 26/09/2017 | I'w drafod ar 03/10/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a gyhoeddwyd fel testun ymgynghoriad ar 9 Awst 2017.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad cryno o'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth, 'Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg - Galwad am dystiolaeth: crynodeb o’r ymatebion
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cylch gwaith cul Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw wanio o ran hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg .
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newyd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaith rheoleiddio a gwaith hyrwyddo mewn perthynas â’r Gymraeg yn cael ei gwblhau gan ddau gorff gwahanol.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu awydd Llywodraeth Cymru i leihau’r lefel o fiwrocratiaeth sydd yn bodoli yn system safonau'r iaith Gymraeg.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda’r safonau iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac i gyhoeddi amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i'r sectorau ynni, cwmnïau dŵr, telathrebu, cwmnïau trenau a bysus.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector breifat.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu yn glir ei rhesymeg dros gynnig cael gwared ar rôl Comisiynydd y Gymraeg.