NDM6513 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 20/09/2017 | I'w drafod ar 27/09/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.
2. Yn gresynu at y diffyg manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar gyfer y Llywodraeth o dan arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu cyflawni erbyn 2021 sy'n ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth iechyd.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn ategu’r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys sefydlu cronfa triniaethau newydd a chynyddu gwariant ar safonau ysgolion.
3. Yn cydnabod bod angen i’r llywodraeth a phob partner cyflenwi yng Nghymru weithio’n well, ac ar draws strwythurau presennol, i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau niweidiol gan Lywodraeth y DU.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu fod Cymru, ers 1999, wedi disgyn ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant economaidd, cyflogau ac incwm y cartref o'i gymharu â'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at oedi parhaus Llywodraeth Cymru yn y broses o gyhoeddi ei strategaeth economaidd a'i methiant i ymgynghori â'r gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill ar ei chynnwys.