NDM6507 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2017 | I'w drafod ar 26/09/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf erioed a’i weithredu’n barhaus.
2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy’n annog pob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.
4. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu yn y broses o gasglu data ledled Cymru.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o gydweithio â rhanddeiliaid a chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael y wybodaeth gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol mewn polisi a'u cyflawni.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dilyn yr esiampl a osodir gan Gyngor Sir Fynwy a reolir gan y Ceidwawyr drwy gyhoeddi ei holl wariant.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi mewn modd sy'n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.