NDM6506 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2017 | I'w drafod ar 20/09/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot;

2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

(a) beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion adeiladu'r uwch garchar arfaethedig;

(b) datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; a

(c) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i garchardai mawr.  

Gwelliannau

NDM6506 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu'r buddsoddiad o £1.3 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio a diweddaru'r ystâd carchardai ar draws Cymru a Lloegr, gan greu cannoedd o leoedd modern i garcharorion a disodli'r hen sefydliadau gorlawn gan adeiladau newydd, addas i'r diben.

2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o hyrwyddo a chlustnodi'r safle arfaethedig ym Mhort Talbot ar gyfer uwch garchar newydd yn ne Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda thrigolion a busnesau lleol ynghylch effaith debygol datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot.

4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o'r safleoedd amgen, gan gyhoeddi'r rhestr arfaethedig.