NNDM6503 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Cydnabod bod unrhyw un sy’n ‘dieithrio plentyn oddi wrth riant’ yn cam-drin plentyn yn emosiynol, fel y'i diffiniwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn ymateb i ddeiseb i gyflwyno cyfraith sy'n cydnabod dieithrio plentyn oddi wrth riant fel trosedd;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu ac ariannu hyfforddiant gorfodol i weithwyr proffesiynol - gan gynnwys staff y gwasanaethau cymdeithasol a Cafcass Cymru ond nid dim ond y rhain - i’w helpu i adnabod achosion o ddieithrio plentyn oddi wrth riant, gan gynnwys llwybrau i amddiffyn plant rhag niwed;
b) cynllunio ymgyrch genedlaethol i roi gwybod i blant a theuluoedd am ddieithrio plant oddi wrth rieni a'r niwed y mae'n ei achosi, gyda'r bwriad o weithredu pan fydd arian yn caniatáu; ac
c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i weithredu i amddiffyn plant rhag camdriniaeth a niwed lle nodwyd bod achos o ddieithrio plentyn oddi wrth riant.