NDM6075 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2016 | I'w drafod ar 06/07/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi can mlynedd ers Brwydrau'r Somme, Coed Mametz a Jutland.

2. Yn rhoi teyrnged i'r rhai a ymladdodd yn y brwydrau hyn a brwydrau eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

3. Yn anrhydeddu'r cof am y rhai a gollodd eu bywydau a'r rhai a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gwrthdrawiadau arfog eraill.

4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o gefnogaeth i luoedd arfog a chymuned y cyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, gan gynnwys drwy:

a) sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, i flaenoriaethu eu hanghenion penodol hwy;
b) cyflwyno Cynllun Cerdyn Cyn-filwyr i ymestyn breintiau i gyn-aelodau'r lluoedd;

c) rhoi rhagor o gyllid i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, i wella ei gapasiti a gwella ei allu i gynorthwyo cyn-filwyr sydd mewn angen; a

d) gwella prosesau casglu data er mwyn: sefydlu beth yw anghenion iechyd cyn-filwyr; canfod y cymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a'u gofalwyr; llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu; a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy'n gwasanaethu a / neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i'r lluoedd arfog.

Gwelliannau

NDM6075-1 | Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2016

Ym mhwynt 4 dileu "bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o gefnogaeth i luoedd arfog a chymuned y cyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, gan gynnwys drwy" ac yn ei le rhoi "y dylai Llywodraeth Cymru ystyried".