NDM6060 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 29/06/2016 | I'w drafod ar 29/06/2016Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2016/2017.
Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig):https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2016
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.
'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' (Mehefin 2016) - Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Y Gwasanaeth Ymchwil, y Gwasanaeth Cyfreithiol a Swyddfa'r UE