NDM6056 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2016 | I'w drafod ar 28/06/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
- Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP;
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Llafur;
- Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Plaid Cymru;
- Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Ceidwadwyr Cymreig;
- Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur;
- Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
- Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Plaid Cymru;
- Y Pwyllgor Deisebau - Llafur;
- Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
- Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur;
- Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur.