NNDM6374 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 17/07/2017 | I'w drafod ar 17/07/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.

2. Yn credu:

a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a

b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil parhad.

'Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)'

Gwelliannau

NNDM6374-1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2017

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r setliad datganoli presennol.

NNDM6374-2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2017

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys yn llawn yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar ôl-Brexit.