NNDM6359 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 29/06/2017 | I'w drafod ar 29/06/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r nifer digyffelyb o bobl ifanc a bleidleisiodd yn etholiad cyffredinol y DU ym mis Mehefin.

2. Yn nodi ymhellach y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cymru 2017, ddiwygio adrannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddechrau ar  newidiadau i'r system bleidleisio yng Nghymru o ran etholiadau cynghorau lleol a Chynulliad Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio newidiadau posibl i'r modd y cynhelir etholiadau cynghorau lleol a Chynulliad Cymru gyda'r nod o gynyddu cyfranogiad mewn etholiadau, gan gynnwys:

a) cyflwyno pleidleisio gorfodol;

b) ehangu'r oedran pleidleisio i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed;

c) symud diwrnod yr etholiad i'r penwythnos; a

d) cyflwyno pleidleisio electronig.

'Deddf Cymru 2017'

'Deddf Llywodraeth Cymru 2006'