NDM6055 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2016 | I'w drafod ar 28/06/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

Gwelliannau

NDM6055-1 | Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod yr enw Cymraeg 'Senedd' wedi ennill cefnogaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.

NDM6055-2 | Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried defnyddio, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yr enw 'Senedd'.