NDM6054 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 28/06/2016 | I'w drafod ar 28/06/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

'Law Yn Llaw at Iechyd Meddwl' Cynllun Cyflawni: 2016-19

Gwelliannau

NDM6054-1 | Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi.