NNDM6283 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 28/03/2017 | I'w drafod ar 28/03/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

2. Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei wella'n sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau buddsoddi ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud defnydd da o bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat.

4. Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch gwaith.

5. Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu cartrefi cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf agored i niwed.

6. Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu hadeiladu.

7. Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o swyddi ym mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru