NNDM6277 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2017 | I'w drafod ar 22/03/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil cerbydau cyhoeddus gwyrdd
2. Diben y bil hwn fydd:
a) hybu'r defnydd o gerbydau trydan neu gerbydau dim-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon; a
b) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau dim-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng Nghymru.