NNDM6261 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2017 | I'w drafod ar 09/03/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ffioedd asiantau gosod neu reoli a godir ar denantiaid.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) gwahardd asiantau gosod neu reoli rhag codi unrhyw ddirwy, swm neu ystyriaeth ariannol, gan gynnwys unrhyw ffi neu gost gwasanaeth neu weinyddu mewn cysylltiad â rhoi, adnewyddu neu barhau tenantiaeth warchodedig, ac eithrio rhent a blaendal ad-daladwy;

b) rheoli'r uchafswm y gellir ei godi ar denant fel blaendal ad-daladwy;

c) lleihau'r gost o rentu i denantiaid preifat a chael gwared ar y rhwystrau i bobl sy'n rhentu am y tro cyntaf, a'r rhai ar incwm isel; a

d) sefydlu cynllun statudol ar gyfer gwneud iawn i denantiaid preifat sydd ag anghydfod mewn perthynas â ffioedd asiantau gosod neu reoli.