NDM6053 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2016 | I'w drafod ar 22/06/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai:

(a) egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru;

(b) y Cod Gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo; ac

(c) dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r Cod.

'Cod Gweinidogol Llywodraeth Cymru - Mai 2016'

Gwelliannau

NDM6053-1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai bod yn agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei gwella drwy sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Cymraeg, yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.

NDM6053-2 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri'r Cod Gweinidogol heb gosb.

NDM6053-3 | Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2016

 
Dileu is-bwyntiau (b) ac (c) a rhoi pwynt newydd yn eu lle:

Yn nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a'r modd y mae'n gweithredu.