NNDM6210 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 12/01/2017 | I'w drafod ar 12/01/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1 Yn nodi bod tua 40 y cant o'r gweithlu sy'n cael eu cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.
2 Yn cydnabod bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.
3 Yn gresynu fod llawer o'r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac ansicrwydd.
4 Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol' ledled Cymru fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd, gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.