NNDM6204 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2017 | I'w drafod ar 11/01/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.

2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i'n cymunedau a'n gwlad.

3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.

4. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.

5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.

6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy.

Cyflwynwyd gan