NNDM6144 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2016 | I'w drafod ar 09/11/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
a) bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd;
b) bod newid arferion bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac yn fforddiadwy a sgiliau coginio;
c) nad yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer corff y mae pobl yn ei wneud;
d) mai dim ond drwy ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac
e) bod angen cyfuniad o addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
'Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013'