NDM6365 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2017 | I'w drafod ar 05/07/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017; a
2. Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y cyfnod 2015-2017, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
'Deddf Llywodraeth Cymru 2006'
'Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad'
'Adroddiad Cydymffurfio ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad 2015-2017'